st-tysul-church

Mam Owain Glyndŵr – merch o Landysul

Cafodd Owain Glyndŵr ei ddewis gan ei gefnogwyr i fod yn Dywysog Cymru  mewn cyfarfod enwog a gynhaliwyd yn Glyndyfrdwy ar Fedi 16eg 1400. Roedd ganddo hawl etifeddol i’r teitl drwy ei dad Gruffydd Fychan oedd yn hannu o deulu brenhinol Powys a’i fam yn hannu o deulu brenhinol Deheubarth. Dyma’r ffeithiau a geir ym mhob llyfr hanes sy’n cyfeirio at ein harwr cenedlaethol, Owain Glyndŵr. Aiff y mwyafrif o’r llyfrau hanes ymlaen i esbonio cefndir Glyndŵr yn yr ardal sydd nawr yn ne Sir Ddinbych. O ganlyniad mae’r holl lefydd enwog a gysylltir gyda Owain yn Sir Ddinbych : Rhuthun, Glyndyfrdwy, Sycharth, Corwen, Glyn y Groes ayb.
 
Ond beth am Deheubarth? Pwy oedd teulu Owain Glyndŵr yn y Deheubarth? A ble roedden nhw’n byw?
 
Roedd mam Owain, Elen, yn un o bedwar o blant. Roedd ganddi chwaer, Margaret a brawd, Owain a hanner brawd, Maredudd. Rhain oedd yr olaf o’r tifeddiannwyr annibynnol oedd yn aelodau o Deulu Brenhinol y Deheubarth a’n gallu olrhain eu hachau yn ol drwy’r Arglwydd Rhys i Rhys ap Tewdwr a Maredudd ab Owain i Hywel Dda.
gwisg y canrif 14
 
Pan reolai’r Arglwydd Rhys dros dde Cymru (Deheubarth), roedd ei diroedd yn estyn o’r ffin gyda Lloegr hyd at Penfro, ac o arfordir y de hyd at yr afon Dyfi. Roedd ei brif ganolfannau yn Nanhwyfer, Aberteifi, Pencader, Dinefwr ac Ystrad Meurig; ond erbyn cyfnod Elen cafodd llawer o’r tiroedd hyn eu cymryd trwy goncwest a’u cipio gan frenhinoedd Lloegr a doedd dim llawer ar ol erbyn y 14eg ganrif yn nwylo Cymry.
 
Ar Dachwedd 8fed 1400, meddiannwyd tiroedd Owain Glyndŵr gan y brenin Henry 1V, a’u rhoi i’w frawd John, Iarll Gwlad yr Haf. Roedd y tiroedd yn cynnwys maenordai ac arglwyddiaethau Glyndyfrdwy, Sycharth a Cynllaeth yn y gogledd ac Iscoed a Gwynionydd yn y de. Dim syndod, felly, mai gwyr Iscoed oedd ymhlith y garfan cyntaf o wyr Ceredigion i ymuno ag Owain yn 1400.
 
Roedd Iscoed a Gwynionydd yn ddau gwmwd ar odre deheuol Ceredigion gyda’r afon Teifi yn ffin iddynt. Roedd Iscoed yn ymestyn o aber y Teifi hyd at yr afon Ceri, a Gwynionydd o’r fan honno bron hyd at Llanwenog. Rhannwyd Iscoed yn ddwy gymuned gan Nant Hirwern – sef Is Hirwern ac Uwch Hirwern. Yn yr un modd rhannwyd Gwynionydd gan Nant Cerdin yn Is Cerdin ac Uwch Cerdin. Saif Llandysul yn Is Cerdin. 
Thomas oedd enw Tadcu Owain Glyndŵr (bu farw 1343/4), sef tad Elen, Margaret ac Owain. Cafodd fab arall, Maredudd o ail briodas gyda chyfnither iddo, ond roedd hwn yn fab anghyfreithlon yn ol cyfraith Lloegr ar y pryd. Roedd priodas rhwng cefndryd yn gyfreithlon yn ol cyfraith Cymru, ond nid yn ol cyfraith Lloegr a oedd wedi’i seilio ar gyfraith Rhufain. 
 
Roedd gan Thomas hefyd frawd o’r enw Owain oedd yn arglwydd Trefgarn Owen ger Brawdraeth yng ngogledd Penfro sy’n dwyn ei enw. Bu farw’n ddi-blant.Bu farw Owain ap Thomas (brawd Elen) tua 1360 ac felly Elen a etifeddodd diroedd ei thad yng Ngheredigion, a Margaret ei chwaer felly a etifeddodd diroedd eu hewythr  Owain yn Trefgarn. Cododd chwedl rymus fod Elen , pan oedd ar fin rhoi genedigaeth i’w mab cyntaf-anedig (Owain Glyndŵr) ar Mai 28ain 1359, nid yng Nglyndyfrdwy, cartref ei gwr, ond yng nghatref ei hewythr Owain yn Trefgarn – sef cartref ei chwaer Margaret erbyn 1360 – ac mae yno y cafodd Owain Glyndŵr ei eni. Gall hyn fod yn gwbl rhesymegol os oedd y ddwy chwaer yno yn gofalu am eu hewythr yn ystod ei waeledd olaf. 
 
Priododd Margaret yn gyntaf gyda William o Lanbrynmair, Sir Drefaldwyn a phan fu ef farw priododd hi gyda Goronwy ap Tudur o Benmynydd, Mon. Ceir delwau ohonynt yn eglwys Penmynydd. Roedd brawd y Goronwy hwnnw (Maredudd ap Tudur) yn hen daid i’r Brenin Harri’r V11 – gwnaeth ei fab Owain Tudur briodi Catherine de Valois a chawsant feibion, Jasper Tudor (Iarll Penfro) ac Edmund Tudor (Iarll Richmond). Jasper oedd tad Harri V11. 
 
Gwist oes mam owain GlyndwrPriododd Elen gyda Gruffydd Fychan yn 1350 gan gadw hefyd y rhan fwyaf o’r hyn oedd yn weddill o deyrnas Ceredigion Rhys ap Tewdwr. Pan fu farw Owain ap Llywelyn ac Owain ap Thomas ap Llywelyn (ewythr a brawd Elen) daeth llinach gwrywaidd Deheubarth i ben, ac felly mam a thad Owain Glyndŵr wnaeth etifeddu Iscoed uwch Hirwern a Gwynionydd Is Cerdin. 
 
Pan oedd Owain ap Llywelyn a’i nai Owain ap Thomas ap Llywelyn yn arglwyddi Gwynionydd, nhw oedd cyd-noddwyr yr Eglwys yn Llandysul a cheir cyfeiriad atynt ar Tachwedd 8fed 1355:
“Oweyn ap Lewelin ap Oweyn and Oweyn ap Thomas had presented John de Woodhull, Chaplain, to the church of Llandussul then vacant, and Thomas, Bishop of St. David’s issues his writ to the Archdeacon of Cardigan, ordering him to hold an inquisition for the purpose of ascertaining their right to present &c.”
 
Hen dadcu Owain Glyndŵr (sef tadcu Elen a thad Thomas ac Owain) oedd Llywelyn ap Cynan (1308?) ap Maredudd (1265) ab Owain (1235) ap Gruffudd(1201) ap Rhys Fychan ap yr Arglwydd Rhys (1198) ap Gruffudd (1137) ap Rhys (1093) ap Tewdwr.
 
Gwnaeth Owain ap Llywelyn ap Owain (ewythr Elen) dreulio nifer o flynyddoedd yng ngwasanaeth  Brenin Lloegr yn Ffrainc. Yn 1345, ynghyd a Rhys ap Gruffudd a Rhys Fychan cafodd ei benodi yn “commissioner of array”, hynny yw roedd rhaid iddynt gasglu mil o ddynion o dde Cymru i ymladd dros y Brenin yn Ffrainc.
 
gwisg pobl canrif 14Roedd angen i’w hanner fod yn filwyr gwaywffyn a’r hanner arall yn saethwyr bwa, ac roedd gofyn iddynt gyfarfod gyda’r Brenin yn Portsmouth o fewn tair wythnos i Wyl Fihangel ar yr hwyraf (Medi 29ain).
 
Comisiynwyd Owain eto ym mis Ebrill y flwyddyn ganlynol (1346). Wrth gwrs, gwnaeth Owain Glyndŵr ei hun dreulio nifer o flynyddoedd yn ymladd dros Frenin Lloegr yn erbyn Ffrainc a’r Alban, cynsail a osodwyd gan ei hynafiaid.
 
Gwnaeth Llywelyn ab Owain ac Owain ap Thomas gynnal llysoedd yn eu harglwyddiaethau. Ar Medi 20fed 1344 cawsant ill dau:
 
“summoned before Gilbert Talbot and others, at Cardigan on Monday next after the Feast of the Exaltation of the Holy Cross, September 20, to show by what warrent he claimed, for himself and his heirs, to hold his free courts, namely one court in each of the aforesaid Lordships, as well crown pleas as all others, without brief, according to the law and custom of Wales, together with many other extensive seigneural rights.”
 
Llywelyn ab Owain oedd arglwydd cwmwd Iscoed Uwch Hirwern, chwarter cwmwd Gwynionydd ac un westfa yn Mabwynion o’r enw westfa “Starrok” (Is Carron?); ac roedd Owain ap Thomas yn arglwydd Iscoed Uwch Hirwern a chwarter cwmwd Gwynionydd.
 
Gwesty'r Porth - Eglwys Tysul
 
Roedd un o’r llysoedd hyn yn Llandysul.
 
 
Gwesty'r PorthFelly, tra bod Machynlleth, Pennal, Sycharth, Glyndyfrdwy, Corwen a Rhuthun yn cofio Owain Glyndŵr, rhaid i ninnau beidio cael ein gadael ar ol. Mae rheswm da gan bobl Brawdraeth ei ddathlu fel un o’u meibion nhw, a rhywle ymhlith adeiladau mwyaf hynafol Llandysul y mae Llys hynafiaid Owain Glyndŵr. Bu Owain, fel ei rieni o’i flaen, yn arglwydd Iscoed uwch Hirwern a Gwynionydd Is Cerdin ers tua 1360, deugain mlynedd cyn iddo gael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar y noson dyngedfennol honno yn 1400.
 

John H Davies 14 9 2005

 
 
Go to top