st-tysul-church

Yn gynnar yn 2014, datblygwyd 3 byrddau gwybodaeth gyda'r Cyngor Cymuned Llandysul a roddir yn y parc.

Dyma'r tecst o'r byrddau.

 

Datblygodd pentref Llandysul o gwmpas y gymuned Gristnogol wreiddiol a sefydlwyd gan St. Tysul yn y 6ed ganrif, a oedd yn gefnder i Dewi Sant, sef Nawdd Sant Cymru, ac yn ŵyr i Ceredig, sefydlydd Ceredigion. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 12ed ganrif ar sylfaen cysegrfa St.Tysul. Mae yna nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, er enghraifft, caer Oes yr Haearn ym Mhencoedfoel (SN 424427) a’r safle fferm a gloddiwyd pan yn datblygu adeilad newydd Gwasg Gomer (ar ochr ogleddol y ffordd osgoi). Mae hyn yn mynegi bod yr ardal wedi ei sefydlu a’i ffermio ers y cyfnod Neolithig (4000 – 2500 C.C.).

Roedd mam Owain Glyndŵr, un o arwyr mwyaf Cymru, yn Dywysoges De Cymru ac roedd ei chartref teuluol hi o amgylch Llandysul. 

Yn ogystal â’r Eglwys yng Nghymru, yn bresennol, mae yna dri chapel yn y pentref – Capel Undodaidd y Graig, Capel Annibynnol Seion a Chapel y Bedyddwyr ym Mhenybont sydd wedi ei leoli ym Mhont-Tyweli. Caewyd Capel y Bedyddwyr Ebeneser yn Stryd Lincoln a Chapeli’r Wesleiaid a’r Methodistiaid Calfinaidd nifer o flynyddoedd yn ôl; bellach, mae’r Capel Wesleaidd yn gartref i Ieuenctid Tysul Youth.

Caiff addysg flaenoriaeth uchel yn Llandysul ar hyd y blynyddoedd, a thystiolaethir hyn yn y nifer o ysgolion a oedd wedi eu lleoli mewn tai preifat yn y pentref, cyn agor yr Ysgol Gynradd yn Sunny Hill yn 1838. Adeiladwyd Ysgol Gynradd newydd (Ysgol Uchaf) yn 1896 a daeth hwn yn gartref i Telynau Teifi, Canolfan Telynau Cymru yn 2005. Agorwyd yr Ysgol Genedlaethol (Ysgol Isaf) yn 1851 a dyna lle mae llyfrgell y pentref wedi ei leoli yn bresennol.  Yn 1860, sefydlodd y Parch. William Thomas (a adnabyddir fel Gwilym Marles, a oedd yn hen ewythr i Dylan Thomas) yr Ysgol Ramadeg. Wrth i nifer y disgyblion gynyddu, symudodd i Myfyrgell sydd wedi ei leoli ar Rhiw Seion. Yn ddiweddarach, adeiladwyd Ysgol Ramadeg yn fwy o faint drwy danysgrifiad cyhoeddus ac agorwyd hon yn 1895. Bellach, hon ydy Ysgol Dyffryn Teifi.

Agorwyd Parc Goffa’r pentref yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf er cof am y sawl a wasanaethodd o’r ardal hon.

Ers 1988 gefeilliwyd Llandysul gyda Phlogonnec, Llydaw.

Ffurfia’r Afon Teifi rhwngsiroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Yn y gorffennol, mae’r afon a’i ffrydiau wedi darparu pwêr i felinau gwlân a grawn yn yr ardal leol a, chydag adeiladu’r Pwerdy yn 1922, darparodd drydan i’r pentref tan cysylltu gyda’r Grid Cenedlaethol yn 1955.

Dros y blynyddoedd, mae’r afon wedi hwyluso gweithgareddau hamdden, er enghraifft, pysgota, hela dwrgwn ac, yn fwy diweddar, canŵio.

 

Mae’r Afon Teifi a’r bont gerrig wedi ffurfo rhan o’r systemau amddiffynnol yn ystod dau ryfel mawr. Yn ystod y Rhyfel Sifil (1642 – 1651), chwythwyd y bont i fyny gan y Brenhinwyr er mwyn arafu’r Seneddwyr a oedd yn croesi’r afon. Gorfodwyd i’r milwyr rydio’r afon yn y sa.e a elwir hyd y dydd heddiw yn Rhyd y Milwyr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr Afon Teifiyn rhan o linell amddiffyn rhag ymosodiadau. Mae amlinelliad o sylfen goncrid un caer tanddaearol i’w weld o hyd ar ochr Sir Gaerfyrddin o’r afon.

Mae’r ddwy sir wedi eu cysylltu gyda’r bont gerrig sydd yn darparu cysylltiad i drafnidiaeth, yn ogystal â phont i gerddwyr wrth ei hochr. Yn y dyddiau cynt, roedd mynediad i gerddwyr hefyd ar hyd dwy bont grog, ac roedd un o’r rhain wedi ei lleoli dros y rhyd hynafol wrth ymyl Eglwys y Plwyf.

Cafodd dyfodiad y rheilffordd yn 1864 effaith arwyddocaol iawn ar y pentref a’i ffordd o fyw. Er bod yr orsaf wedi ei lleoli ym Mhont Tyweli, gelwid hi yn “Orsaf Llandyssil.” Roedd marchnad anifeiliaid wedi ei lleoli yn gyfleus yn ymyl yr orsaf reilffordd. Creodd y rheilffordd gyfleoedd economegol i ffermwyr a allai bellach symud eu cynnyrch a’u stoc i fewn ac allan o’r ardal yn gyflym.  Roedd Gwesty’r Cilgwyn, gyferbyn â’r Orsaf Reilffordd, yn cynnig llety i deithwyr, tra bod gwestai eraill, megis Y Porth a’r King’s Head yn casglu teithwyr a’u bagiau mewn cart a cheffyl.

Roedd busnesau a siopau yn y gymuned ar ddwy ochr yr afon yn cynnwys siop groser, nwyddau haearn, cyfrwywyr, argraffwyr, teilwriaid, gwneuthurwyr esgidiau ac hetiau, dilledwyr, gwerthwyr melysfwydydd, fferyllwyr, pobyddion, gofaint a gwneuthurwyr celfi.Roedd bwytai a thafarndai yn darparu bwyd a lluniaeth.

Go to top